Jobs

Jobs

Nant Gwrtheyrn are recruiting full time, part time and seasonal vacancies, join us!

Take a look at our available roles;

  • Glanhawr

    Rydym yn chwilio am lanhawr i ddarparu gwasanaethau glanhau safonol yn Nant Gwrtheyrn.

    Cyflog: Graddfa Cyflog - i'w gadarnhau

    Hyd Cytundeb: Swydd barhaol

    Cyfnod Prawf: 6 mis

    Oriau Gwaith: Rhan amser - swydd 42 awr yn cael ei rannu i 2 swydd rhan amser

    Prif Gyfrifoldebau:

    • Dyletswyddau glanhau safonol yn y Neuadd, Caffi, Plas, Sgubor, Capel a'r swyddfeydd.
    • Sicrhau bod y safle yn edrych ar ei orau pob amser.
    • Glanhau toiledau'r safle yn gyson yn ystod y dydd.
    • Cyfrifol am lanhau yn dilyn digwyddiadau.
    • Weithiau bydd gofyn i chi helpu'r adran llety gyda newid y gwlâu.
    • Sicrhau fod offer glanhau yn cael ei gadw yn yr ardaloedd priodol.
    • Adrodd i'r Arweinydd Gofal a Glendid os oes angen archebu ac ailgyflenwi stoc cynnyrch glanhau.
    • Hyblygrwydd gydag oriau yn ddibynnol ar ddigwyddiadau, hyn yn cael ei drefnu a chyfathrebu gan yr Arweinydd Gofal a Glendid.

    Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am y swydd anfonwch eich CV at post@nantgwrtheyrn.org

  • Gofalwr

    Rydym yn chwilio am ofalwr i ddarparu gofal cyffredinol o holl safle ac eiddo Nant Gwrtheyrn.

    Cyflog: Graddfa Cyflog - i'w gadarnhau

    Hyd Cytundeb: Swydd barhaol

    Cyfnod Prawf: 6 mis

    Oriau Gwaith: Shifftiau 4 diwrnod (8yb tan 4yh a 2yh tan 10yh bob yn ail shifft)

    Prif Gyfrifoldebau:

    • Agor a chau atyniadau'r safle
    • Gofalu am holl offer a chelfi’r safle yn gyffredinol. Sicrhau fod yr offer a’r celfi priodol yn cael eu lleoli ar gyfer digwyddiadau a darpariaeth addysgol yn y Nant.
    • Gosod y Neuadd/Capel/Plas ar gyfer priodasau neu ddigwyddiadau (e.e. Cynadleddau, ysgolion, dosbarthiadau a.y.b. a’u clirio ar ôl y digwyddiad.
    • Dyletswyddau glanhau cyffredinol yn y Neuadd, Caffi, Plas, Capel a’r swyddfeydd a sicrhau fod y safle yn edrych ar ei orau bob amser.
    • Bod yn gyfrifol am godi ysbwriel a gwagio biniau allanol a thu mewn i’r gofodau i gyd a’u rhoi yn y sgip.
    • Hysbysu’r Arweinydd Gofal a Glendid am unrhyw nwyddau sydd angen eu harchebu ar gyfer y safle.
    • Hysbysu’r Arweinydd Gofal a Glendid pan fydd angen contractwyr i wagio biniau ail-gylchu a gwastraff yr adran Arlwyo a Safle.
    • Gofalu am ddiogelwch a pharcio priodol yn ystod digwyddiadau.
    • Gwaith cynnal a chadw fel peintio a thrwsio yn ôl y gofyn.
    • Goruchwylio’r canlynol:
    • Lle dwr a chronfa’r safle
    • Darllen mesuryddion trydan ac ati, eu cofnodi a’u gyrru ymlaen i’r Arweinydd Gofal a Glendid
    • Gwneud prawf ar y larymau tan yn wythnosol a’u cofnodi
    • Monitro gwres a dŵr yn Nhrem y Môr a Threm y Mynydd a’u codi/gostwng fel bo angen.
    • Casglu data a chofnodi data’n wythnosol ar gyfer yr uchod.
    • Adrodd i'r Arweinydd Gofal a Glendid os oes unrhyw broblemau ar y safle e.e. diffyg gwres, offer yn torri.
    • Cydweithio gyda chontractwyr allanol yn ôl yr angen dan oruchwyliaeth yr Arweinydd Gofal a Glendid.
    • Delio gydag ymholiadau cwsmeriaid yn ôl y gofyn, mewn modd proffesiynol a chyfeillgar.
    • Gyrru beic cwad a defnyddio’r graeanwr halen yn ystod y gaeaf (Darperir hyfforddiant)
    • Dyletswyddau porthor y safle
    • Gweithio mewn modd cyfrinachol ac o fewn rheolau’r Ddeddf Gwarchod Data.
    • Weithiau bydd gofyn i helpu'r adran llety gyda stripio gwlâu.
    • Unrhyw waith rhesymol arall.

    Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am y swydd anfonwch eich CV at post@nantgwrtheyrn.org

  • Cogydd

    Mae tîm Arlwyo Nant Gwrtheyrn yn chwilio am gogydd profiadol ac uchelgeisiol, sydd wedi arfer cynnal y safonnau gorau posib yn y maes arlwyo.

    Cyflog: Graddfa Cyflog - i'w gadarnhau

    Hyd Cytundeb: Swydd barhaol

    Cyfnod Prawf: 6 mis

    Oriau Gwaith: I'w drafod

    Prif Gyfrifoldebau:

    • Bod yn rhan o dîm sydd yn hyrwyddo a chreu profiad bwyta Cymreig o fewn cyd-destun amcanion Nant Gwrtheyrn. 
    • Coginio ar gyfer amrywiaeth o gwsmeriaid a chleientiaid a darparu bwyd o ansawdd a safon uchel.
    • Darparu prydau i bobl gyda deietau arbennig yn ôl y gofyn.
    • Bod yn rhan o’r tîm cogyddion yn creu bwydlenni diddorol , apelgar ar gyfer traws-doriad o gwsmeriaid.
    • Sicrhau bod y safonau disgwyliedig ar gyfer gwasanaethu bwyd ynghyd â gofal a gwasanaeth cwsmer yn cael eu darparu.
    • Sicrhau bod y Nant yn cyrraedd safonau Diogelwch Bwyd ac Iechyd yr Amgylchedd.
    • Cynorthwyo a chynnal hylendid y gegin a’r offer, yr ystafell fwyta, y storfeydd a.y.b. yn unol â chyfarwyddiadau’r Arweinydd Arlwyo.
    • Mynd ar gyrsiau penodol yn ôl y gofyn.
    • Cydweithio gyda’r Arweinydd Arlwyo i archebu cyflenwadau.
    • Cyfrannu tuag at waith tîm yr adran Arlwyo i reoli costau a lleihau gwastraff.
    • Ymgymryd â hyfforddiant datblygiad personol, gan gynnwys y tu allan i oriau gwaith yn ôl yr angen.
    • Mynychu cyfarfodydd yr adran arlwyo yn rheolaidd.
    • Unrhyw waith rhesymol arall (e.e. gosod a chlirio byrddau).

    Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am y swydd anfonwch eich CV at post@nantgwrtheyrn.org

If you are interested in coming to work at Nant Gwrtheyrn, send your CV over and we will keep you in mind when jobs open up.